Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Craffu ar Gyfrifon 2018-19

Argymhellion a gynhwyswyd yn Adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18

Argymhelliad 2. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod targedau Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys mesurau amgen ar gyfer ei berfformiad ariannol, gan sicrhau trylwyredd wrth reoli ei gyllid. Gallai’r rhain adlewyrchu sut y mae’r adnoddau sydd ar gael i’r Comisiwn eu defnyddio a’r rhai ar gyfer y Bwrdd Taliadau yn cael eu gwahanu.

Argymhelliad 3. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Cynulliad yn gosod targed ehangach a mwy uchelgeisiol ar gyfer arbedion cost neu effeithlonrwydd sy’n adlewyrchu ystod lawn ei weithgareddau yn hytrach nag ymwneud â’r contractau y bydd yn eu hadnewyddu yn ystod y flwyddyn yn unig. Dylid llunio adroddiad am berfformiad ar sail y targed bob blwyddyn yng nghyfrifon Comisiwn y Cynulliad.

Argymhelliad 4. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Comisiwn y Cynulliad yn darparu i’r Pwyllgor, pan fo rhagor o fanylion yn hysbys, y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu ei Gynllun Ymadael Gwirfoddol, gan gynnwys sut y cafodd ei lywio gan ei Adolygiad Capasiti.

Argymhelliad 5. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys dadansoddiad o ddata absenoldebau staff yn ei adroddiadau monitro mewnol, yn ogystal â’i gyfrifon blynyddol, i wahaniaethu rhwng absenoldebau oherwydd problemau iechyd meddwl ac achosion eraill o salwch.

Argymhelliad 6. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Comisiwn y Cynulliad yn rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor am sut y mae cyfraddau trosiant staff wedi newid dros y pedair blynedd diwethaf rhwng 2015-16 a 2018-19.

Argymhelliad 7. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Comisiwn y Cynulliad yn rhoi manylion i’r Pwyllgor am y newidiadau y mae wedi’u gwneud i’w system rheoli perfformiad, ynghyd ag asesiad o’u heffeithiolrwydd wrth gryfhau’r trefniadau.

Argymhelliad 8. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Comisiwn y Cynulliad yn adeiladu ar y gwaith i ymgysylltu â chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac arwain y ffordd ar draws y sector cyhoeddus drwy gynnwys, yn ei adroddiadau blynyddol a’i gyfrifon, ddatgeliad o’r bwlch cyflog ethnigrwydd.

Argymhelliad 9. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Comisiwn y Cynulliad yn sicrhau bod digon o fuddsoddiad mewn mesurau cynaliadwyedd eraill, gan gynnwys mannau gwefru, i hyrwyddo’r defnydd o gerbydau trydan ac atgyfnerthu ei rinweddau amgylcheddol.

Argymhelliad 10. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Comisiwn y Cynulliad yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i rannu’n ehangach unrhyw beth perthnasol a ddysgwyd o’i hymdrechion ei hun i gynyddu ei sylfaen cyflenwyr o Gymru.